Mae Graham Potter, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud na fydd ei dîm yn rhoi croeso rhy gynnes adref i Steve Lovell, rheolwr Gillingham, ym mhedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr yn Stadiwm Liberty heddiw (Ionawr 26, 3yp).

Cafodd Steve Lovell ei eni yn y ddinas, ac fe chwaraeodd e mewn dwy gêm i’r Elyrch yn 1987.

Roedd ei dad, y cyn-bêldroediwr Alan Lovell, yn ddeilydd tocyn tymor yr Elyrch.

“Mae’n wych iddo fe gael dod adref, fel petai,” meddai Graham Potter. “Alla i ddim wir ddymuno diwrnod da iddo fe, ond efallai y gwna i ddymuno dydd da iddo fe wedi’r gêm.”

Y gwrthwynebwyr

Tra bod Gillingham yn bedwerydd ar ddeg yn yr Adran Gyntaf, ac wedi curo Caerdydd yn y rownd ddiwethaf, mae’r Elyrch yn nawfed yn y Bencampwriaeth, chwe phwynt yn unig islaw safleoedd y gemau ail gyfle.

“Fe gawson nhw ganlyniad gwych yn y rownd ddiwethaf wrth guro Caerdydd, sy’n dîm yn yr Uwch Gynghrair,” meddai Graham Potter am Gillingham.

“Maen nhw wedi stryglo braidd o ran y gynghrair ond oddi cartref, maen nhw wedi cael ambell ganlyniad da.

“Maen nhw’n dîm sy’n chwarae â hyder heb yr hualau. Ac mae Cwpan FA Lloegr yn rhoi’r cyfle iddyn nhw chwarae fel y tîm gwannaf a mwynhau’r gêm.

“Dyna sy’n gwneud y gystadleuaeth hon mor wych.”

Profiad newydd i Graham Potter

Ac yntau’n profi pêl-droed yng Nghymru a Lloegr am y tro cyntaf ar ôl cael ei benodi gan Abertawe dros yr haf, mae gan Graham Potter hen ddigon o brofiad o gemau cwpan yn Sweden, lle’r oedd yn rheolwr ar Östersund.

Enillodd y tîm y Svenska Cupen (Cwpan Sweden) yn 2017, gan gymhwyso ar gyfer Cynghrair Europa o ganlyniad i’w llwyddiant.

Serch hynny, mae Graham Potter yn dweud bod rhywbeth arbennig yn perthyn i Gwpan FA Lloegr.

“Mae Cwpan FA Lloegr yn unigryw. All pobol ddim deall hynny o gwmpas y byd, ond mae’n sicr yn wahanol.

“Mae’r atgofion sydd gyda fi o ennill y gwpan yn Sweden yn wych. Mae’n ddiwrnod y bydda i’n ei gofio am weddill fy oes.”

Yn sgil ei brofiad yn Sweden, mae’n dweud ei fod yn uniaethu â Gillingham fel y tîm y mae disgwyl iddyn nhw golli’r gêm.

“Mae’n debyg i Östersund yng Nghynghrair Europa, am wn i. Rydych chi’n gwybod sut beth yw bod y tîm gwannaf.

“Rhaid i chi ddeall a pharchu hynny. Dyna sy’n gwneud Cwpan FA Lloegr mor arbennig.

“Ar y diwrnod, gallwch chi gael eich cosbi os nad ydych chi’n chwarae’n dda, a dyna pam fod pawb yn hoffi’r gystadleuaeth hon.”

Pwysigrwydd ymgyrch dda yn y gwpan

 A’r pwyslais yn gadarn ar lwyddo yn y Bencampwriaeth, mae Graham Potter yn cyfaddef fod ganddo fe deimladau cymysg am y dyhead i fynd ymhell yn y gwpan – gyda’r posibilrwydd o orfod chwarae nifer o gemau ychwanegol.

“Mae’n un anodd,” meddai. “Ar y naill law, fe allech chi gael penwythnos i ffwrdd, ond gall perfformiad da a buddugoliaeth roi hyder i’r garfan gyfan.

Argyfwng anafiadau?

Yn sgil yr anaf i Joe Rodon, dim ond dau amddiffynnwr canol holliach sydd gan Abertawe, sef Mike van der Hoorn a Cameron Carter-Vickers.

Mae disgwyl i Joe Rodon fod allan am hyd at ddeufis, tra bod y cefnwr chwith Martin Olsson allan am weddill y tymor.

Y disgwyl yw y gallai Cian Harries gael ei gynnwys yn y garfan.

Yn y safleoedd eraill, mae’r asgellwr Wayne Routledge wedi anafu ei goes, tra bod y cefnwr de Kyle Naughton wedi anafu ei ben-glin.

Mae’r chwaraewyr canol cae Joel Asoro a Nathan Dyer, ill dau, yn gwella o salwch.

Ond mae Graham Potter yn gwadu bod gan Abertawe “argyfwng”.

“Dw i ddim yn meddwl ein bod ni wedi cyrraedd y pwynt [lle bydd angen cynnwys chwaraewyr o’r tîm dan 23].

“Wrth gwrs ein bod ni’n siarad â’r bois yna beth bynnag, felly rydyn ni’n ymwybodol iawn o’r chwaraewyr hynny oherwydd rydyn ni’n gwylio’r holl gemau.

“Rydyn ni’n ymwybodol o bwy sydd wedi bod yn gwneud yn dda, a phwy sydd bron â bod yn barod [i chwarae].

“Ond mae gyda ni 21 o chwaraewyr sydd wedi bod yn ymarfer.”