Mae amddiffynnwr Cymru a Brentford, Chris Mepham, ar ei ffordd i Glwb pêl-droed Bournemouth am ffi o £12 miliwn.

Fe fydd y chwaraewr 21 oed yn cael ei brawf meddygol heddiw (Dydd Mawrth, Ionawr 22), cyn ymuno a’i gyd-wladwr, David Brooks, yn stadiwn Dean Court.

Mae rheolwr Bournemouth, Eddie Howe, wedi bod yn dilyn llwyddiant Chris Mepham ers amser hir.

Fe geisiodd arwyddo’r chwaraewr i’r clwb yn yr haf ond roedd Brentford yn benderfynol o’i gadw.

Mae’r amddiffynnwr wedi cael pedwar cap i Gymru o dan Ryan Giggs ac wedi chwarae 48 o weithiau i Brentford ers gwneud ei ymddangosiad cyntaf ym mis Ionawr 2017.