Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi arwyddo’r Archentwr Emiliano Sala o Nantes am oddeutu £15m, sy’n record i’r clwb.

Mae’n curo’r record flaenorol, sef £11m am Gary Medel yn 2013.

Roedd oedi cyn i’r cytundeb gael ei lofnodi, gydag awgrymiadau fod Nantes am iddo aros i chwarae un gêm olaf cyn ymadael am Gymru.

Ond mae Ken Choo, prif weithredwr Caerdydd wedi croesawu’r ymosodwr, oriau’n unig ar ôl i’r Adar Gleision golli o 3-0 yn erbyn Newcastle yn Uwch Gynghrair Lloegr, sy’n eu gosod ymhlith safloedd y gwymp unwaith eto.

“Mae’n amlwg wedi bod yn broses hir i sicrhau gwasanaethau Emiliano, ond rwy’n falch iawn ein bod ni mewn sefyllfa erbyn hyn lle gallwn ni gadarnhau ei lofnod,” meddai wrth wefan y clwb.

“Rydym yn gweld Emiliano fel caffaeliad arwyddocaol, ac yn ei groesawu’n dwymgalon i brifddinas Cymru.”

‘Pleser mawr’

Mae Emiliano Sala wedi sgorio 12 gôl mewn 19 o gemau yn Ligue 1 yn Ffrainc y tymor hwn, wrth i’r Adar Gleision barhau i gael trafferthion o flaen y gôl.

Mae’r chwaraewr 28 oed yn ymuno â’r clwb ar gytundeb tair blynedd, gan ddweud ei fod yn “hapus iawn”.

“Dw i’n hapus iawn i fod yma. Mae’n rhoi pleser mawr i fi, ac alla i ddim aros i ddechrau ymarfer, cyfarfod â fy nghyd-chwaraewyr a dechrau ar y gwaith.”

Daw’r newyddion am Emiliano Sala ddyddiau’n unig ar ôl i’r Adar Gleision ddenu Oumar Niasse ar fenthyg o Everton.