Abertawe 1–0 Sheffield United                                                   

Oli McBurnie a sgoriodd unig gôl y gêm wrth i Abertawe guro Sheffield United ar y Liberty yn y Bencampwriaeth nos Sadwrn.

Yr ymwelwyr a oedd y tîm gorau yn yr hanner cyntaf a bu rhaid i Erwin Mulder fod yn effro i atal Billy Sharp o chwe llath hanner ffordd trwy’r hanner.

Ymatebodd y gôl-geidwad cartref yn dda i atal Cameron Carter-Vickers rhag gwyro’r bêl i’w rwyd ei hun funud cyn yr egwyl hefyd.

Gwnaeth Graham Potter un o’i newidiadau nodweddiadol ar hanner amser ac roedd Abertawe’n llawer gwell ar ôl troi.

Doedd fawr o syndod eu gweld yn mynd ar y blaen ugain munud yn ddiweddarach felly, McBurnie’n rhwydo yn dilyn gwaith creu taclus Nathan Dyer a Mike van der Hoorn.

Bu bron i Bersant Celina a Daniel James ddyblu’r fantais yn fuan wedi hynny ond gwnaeth Dean Henderson arbediad dwbl da i’w hatal.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi’r Elyrch i’r nawfed safle yn y tabl, chwe phwynt o safleoedd y gemau ail gyfle.

.

Abertawe

Tîm: Mulder, Naughton, van der Hoorn, Rodon (Carter-Vickers 21’), Roberts, Fer, Grimes, Dyer (Fulton 81’), Celina, Routledge (James 45’), McBurnie

Gôl: McBurnie 65’

.

Sheffield United

Tîm: Henerson, Basham, Egan, O’Connell, Baldock, Norwood, Fleck (Madine 74’), Stevens, Duffy (Dowell 66’), McGoldrick, Sharp (Clarke 81’)

Cardiau Melyn: Norwood 37’, Stevens 45+3’, Baldock 52’, O’Connell 74’

.

Torf: 18,673