Casnewydd 1–0 Exeter                                                                     

Rhoddwyd hwb i obeithion Casnewydd o gyrraedd gemau ail gyfle’r Ail Adran gyda buddugoliaeth dros Exeter ar Rodney Parade brynhawn Sadwrn.

Roedd gôl ail hanner Jamille Matt yn ddigon i drechu’r ymwelwyr o Gaerwysg sydd uwch ben yr Alltudion yn y tabl.

Wedi hanner cyntaf di sgôr, fe ddaeth y gôl holl bwysig ugain munud o ddiwedd y naw deg pan rwydodd Matt yn dilyn gwaith creu Mrk O’Brien.

Mae tîm Mike Flynn yn aros yn y trydydd safle ar ddeg yn y tabl er gwaethaf y fuddugoliaeth ond yn cau’r bwlch rhyngddynt a’r safleoedd ail gyfle i bum pwynt.

.

Casnewydd

Tîm: Day, Bennett, O’Brien, Demetriou, Poole, Bakinson, Amond, Willmott, Butler, Semenyo, Matt

Gôl: Matt 71’

.

Exeter

Tîm: Pym, Sweeney, O’shea, Moxey, Woodman (Abrahams 86’), Wilson (Holmes 73’), Collins, Taylor, Law, Bowman, Forte (Williams 66’)

.

Torf: 3,791