Newcastle 3–0 Caerdydd                                                                 

Llithrodd Caerdydd i safleoedd disgyn Uwch Gynghrair Lloegr ar ôl colli oddi cartref yn erbyn Newcastle ar St James’ Park brynhawn Sadwrn.

Daeth dwy o goliau’r tîm cartref o ffynhonnell annisgwyl, yr amddiffynnwr canol, Fabian Schär. Ond parhau a wnaeth problemau’r Adar Gleison o flaen gôl er gwaethaf gêm gyntaf i’r blaenwr newydd sydd ar fenthyg o Everton, Oumar Niasse.

Doeth gôl gyntaf Schär hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf, yr amddiffynnwr yn rhededg i gwrt cosbi Caerdydd yn rhy rhwydd o lawer cyn llithro’r bêl heibio Neil Etheridge i gornel isaf y rhwyd.

Sgoriodd y gŵr o’r Swistir ei ail toc wedi’r awr, gôl digon blêr o gic gornel. A rhoddwyd y canlyniad tu hwnt i unrhyw amheuaeth yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm pan rwydodd Ayoze Pérez o groesiad Solomón Rondón.

Mae’r canlyniad yn codi Newcastle dros Gaerdydd yn y tabl wrth i’r Adar Gleision lithro i’r deunawfed safle.

.

Newcastle

Tîm: Dubravka, Yedlin, Schär, Lascelles, Lejeune, Ritchie (Manquillo 85’), Perez, Hayden, Longstaff, Atsu, Rondon

Goliau: Schär 24’, 63’, Perez 90+3’

.

Caerdydd

Tîm: Etheridge, Peltier, Ecuele Manga, Bamba, Bennett, Mendez-Laing (Murphy 82’), Camarasa, Ralls, Hoilett, Paterson (Ward 89’), Niasse (Reid 64’)

Cerdyn Melyn: Camarasa 46′

.

Torf: 49,864