Mae Mark Hudson, cyn-gapten Caerdydd sydd bellach yn rheolwr dros dro Huddersfield, yn peri penbleth i Pep Guardiola, rheolwr Man City.

Bydd y ddau dîm yn mynd benben yn Stadiwm John Smith wrth i Mark Hudson, oedd yn gapten ar yr Adar Gleision yn niwedd ei yrfa, arwain ei dîm am y tro cyntaf ers i David Wagner gael ei ddiswyddo.

“Mae’n broblem fach, mewn gwirionedd, oherwydd dydyn ni ddim yn gwybod [beth i’w ddisgwyl],” meddai Pep Guardiola.

“Hyd yn oed pan fo gyda chi un gêm, fe gewch chi rywfaint o argraff o reolwr.

“Wrth gwrs fod gyda ni wybodaeth am yr hyn mae e wedi’i wneud ar lefel dan 23, ond mae’n gwbl wahanol.

“Dydyn ni ddim yn gwybod sut fydd e’n chwarae, pa system, a fyddan nhw’n chwarae peli hir neu fyr, a fydd ganddyn nhw bedwar yn y cefn, pump yn y cefn, un ymosodwr neu ddau, gwasgu’n uchel neu’n isel… dydyn ni ddim yn gwybod unrhyw beth yn sicr.

“Bydd angen i ni addasu ar unwaith ar ôl pump i ddeg munud. Bydd rhaid i’r chwaraewyr ddeall yn union beth sy’n mynd i ddigwydd yn y gêm ac addasu cyn gynted â phosib.”

Man City yn mynd am y teitl

Er yr ansicrwydd, Man City yw’r ffefrynnau i ennill y gêm, wrth iddyn nhw gwrso teitl arall yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Mae Huddersfield, i’r gwrthwyneb, ar waelod y tabl, wyth pwynt i ffwrdd o’r safleoedd diogel ar ôl colli wyth allan o naw gêm yn ddiweddar.

Cawson nhw gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn Caerdydd yr wythnos ddiwethaf.