Mi fydd Aaron Ramsey yn ymuno â Juventus yn Turin ar gytundeb pedair blynedd gwerth £300,000 yr wythnos, yn ôl papur newydd The Times.

Arwyddodd y Cymro 28 oed gytundeb ddydd Sul (Ionawr 13) sy’n sicrhau dyfodol gydag  arweinwyr cynghrair Serie A yn yr Eidal ar ôl 11 mlynedd gydag Arsenal.

Roedd Aaron Ramsey yn gymwys i arwyddo cytundeb cyn-gontract gyda chlybiau tramor fis yma wrth i’w gytundeb gydag Arsenal ddirwyn i ben ar ddiwedd y tymor.

Ac oherwydd bod y cytundeb yn dod i ben, ni fydd Juventus yn gorfod talu ceiniog i Arsenal am y chwaraewr, a dyna sydd i gyfrif am eu gallu i gynnig cytundeb gwerth £62m i Aaron Ramsey.

 Rhagweld Ramsey yn “gwell”

Dywedodd capten tîm merched Cymru, sydd wedi chwarae mewn wyth gwlad wahanol, y byddai hi’n falch o weld Aaron Ramsey yn symud dramor.

“A fydd Ramsey yn mynd i Juve? Rwy’n gobeithio y bydd o,” meddai Jess Fishlock, sydd â thros 100 o gapiau i Gymru ac sydd wedi chwarae mewn wyth gwlad wahanol.

“Os yw Ramsey yn mynd i Juve, nid yn unig y bydd yn ymestyn ei yrfa, ond  fe fydd yn gwella.”