Mae Graham Potter, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud nad yw’r clwb wedi derbyn cynigion am y chwaraewr canol cae Daniel James.

Ond mae’n dweud bod y clwb wedi derbyn sawl ymholiad dros yr haf, ac yntau bryd hynny’n chwaraewr ymylol oedd newydd dorri trwodd o’r tîm dan 23 oed.

Daw ei sylwadau ddiwrnod yn unig ar ôl i gyfrifiadur Marcelo Bielsa, rheolwr Leeds, ddatgelu bod y clwb wedi bod yn dilyn hynt a helynt y Cymro yn y Liberty.

Fe ddaeth y darganfyddiad yn ystod cynhadledd i’r wasg anghyffredin, lle’r oedd yn amddiffyn ei ddefnydd o ysbiwyr i wylio timau eraill yn y Bencampwriaeth yn ymarfer.

Mae’r dyfalu’n parhau ynghylch dyfodol chwaraewr canol cae Abertawe, gydag adroddiadau’n awgrymu y gallai’r Elyrch ofyn am rhwng £3m ac £20m amdano.

“Fe wnaeth sawl clwb o’r adrannau is ymholiadau am Dan, ond ro’n i am ei gadw fe gyda ni oherwydd roedden ni’n credu bod cyfle iddo fe ein helpu ni,” meddai.

“Dw i ddim wedi clywed y naill ffordd na’r llall [am ddiddordeb ynddo yn ystod mis Ionawr], mae wedi bod yn dawel iawn.”

‘Cysondeb yw’r nod’

Fe fu Graham Potter yn siarad â’r wasg ar drothwy’r gêm yn erbyn Sheffield United ddydd Sadwrn, ac yntau wedi bod wrth y llyw am y tro cyntaf yn erbyn yr un tîm ddechrau’r tymor.

“Dw i’n cofio siarad â Dan ychydig wythnosau cyn y gêm yn erbyn Sheffield United ar ddiwrnod cynta’r tymor,” meddai.

“Roedd e’n sôn am fynd allan ar fenthyg eto oherwydd roedd nifer o chwaraewyr o’i flaen e.

“Dw i ddim yn credu ei fod e wedi chwarae’r un gêm bryd hynny, ac roedd e’n chwaraewyr eithaf anhysbys yn y tîm dan 23 oed.

“Ond fe ddywedais i wrtho fe fod pethau’n newid yn y byd pêl-droed a’n bod ni’n hoffi ei rinweddau fe a’r hyn roedd e’n ei gynnig i’r tîm.

“Roedd gyda ni Barrie [McKay], Wayne [Routledge], Joel [Asoro], Luciano [Narsingh], Jeff [Jefferson Montero]… Roedd gyda ni ddigon o chwaraewyr llydan.

“Mae Dan wedi chwarae yn y canol i ni, a dw i’n credu y gallai symud yno yn y pen draw.

“Dw i’n hapus iawn drosto fe oherwydd, fel Matt Grimes a Joe Rodon a Jay Fulton, maen nhw i gyd wedi dychwelyd ac ry’n ni wedi trio eu cael nhw i gyd yn chwaraewyr cyson yn y Bencampwriaeth. Mae’n cymryd amser, ond mae’n broses sy’n rhaid mynd drwyddi.”