Mae adroddiadau yn Ffrainc fod gobeithion Clwb Pêl-droed Caerdydd o ddenu Emiliano Sala o Nantes ar ben, ar ôl iddyn nhw ostwng eu cynnig o €22m i €15m.

Roedd hi’n edrych yn debygol bod yr ymosodwr o’r Ariannin ar ei ffordd i Gymru ar ôl iddo dynnu’n ôl o’r garfan i herio Nimes heno (dydd Mercher, Ionawr 16).

Roedd yr Adar Gleision yn gobeithio y byddai ar gael i herio Newcastle yn Uwch Gynghrair Lloegr ddydd Sadwrn.

Ond mae’r dyfalu’n parhau a fydd y ddau glwb yn gallu dod i gytundeb.