Mae clwb pêl-droed Caerdydd wedi rhyddhau datganiad sy’n cadarnhau nad yw sylwadau eu rheolwr, Neil Warnock, ar Brexit yn cynrychioli safbwyntiau’r clwb.

Dywedodd y rheolwr 70 oed o Swydd Efrog “nad yw’n gallu disgwyl” i wledydd Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ar ôl gem gyfartal yn erbyn Huddersfield ar ddydd Sadwrn (12 Ionawr) yn Stadiwm Dinas Caerdydd, fe ymosododd ar fethiant y Llywodraeth i weithredu canlyniad refferendwm 2016.

“I uffern gyda gweddill y byd”, meddai, gydag arwydd ‘Visit Malaysia’- sef noddwyr yr Adar Gleision, yn  glir y tu ôl iddo.

Vincent Tan, dyn busnes o Malaysia yw perchennog y clwb, ac mae’r garfan yn cynnwys chwaraewyr o Affrica, Asia, Ewrop a Gogledd America.

“Mae’r sylwadau a wnaed gan ein rheolwr yn dilyn y gêm ddydd Sadwrn yn gynrychiolaeth o’i safiad gwleidyddol personol,” meddai’r Clwb.

“Dydi’r sylwadau hyn ddim yn adlewyrchu safiad gwleidyddol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd na Bwrdd y Cyfarwyddwyr.”