Mae gêm tîm pêl-droed Caerdydd yn erbyn Huddersfield heddiw (dydd Sadwrn, Ionawr 12) “mor fawr ag unrhyw gêm arall y tymor hwn”, meddai’r rheolwr Neil Warnock.

Mae’r Adar Gleision wyth pwynt uwchlaw’r ymwelwyr, ac maen nhw’n ail ar bymtheg yn y tabl, un safle uwchlaw’r gwymp.

Maen nhw heb fuddugoliaeth yn eu dwy gêm ddiwethaf.

“Mae’r ystafell newid yn ein helpu ni gyda’r ysbryd sydd gyda ni,” meddai Neil Warnock.

“Mae’r bois yn wych a does gen i ddim rheswm i’w hamau nhw.

“Pe bawn i’n mynd i’r ffosydd, byddwn i am eu cael nhw ochr yn ochr â fi.

“Rhaid i ni fanteisio ar fwy o’n cyfleoedd gan ein bod ni wedi llithro’n ôl yn yr ystyr hynny dros yr wythnosau diwethaf.”

Ei wrthwynebydd, David Wagner

Mae Neil Warnock yn llawn canmoliaeth ar gyfer David Wagner, rheolwr Huddersfield, ar ôl iddo lwyddo i gadw ei dîm yn Uwch Gynghrair Lloegr y tymor diwethaf.

“Roedd yn gamp anhygoel,” meddai.

“Ro’n i’n meddwl y dylai David fod wedi ennill gwobr Rheolwr y Flwyddyn y tymor diwethaf yn sgil yr hyn a gyflawnodd e.

“Maen nhw wedi chwarae’n dda iawn mewn rhai gemau.

“Gall hynny fod yn rhwystredig yn yr Uwch Gynghrair – rydych chi’n edrych ar sut wnaethon ni yn erbyn Burnley ac Arsenal yn gynnar, ond does dim angen pump neu chwech o gyfleoedd ar y timau mawr i sgorio.”