Mae nifer o chwaraewyr tîm pêl-droed Abertawe wedi gwella o salwch ar gyfer y daith i herio Preston yn y Bencampwriaeth heddiw (dydd Sadwrn, Ionawr 12).

Roedd chwech o chwaraewyr yn sâl ar ddiwrnod y gêm yn erbyn Aston Villa yng Nghwpan FA Lloegr yr wythnos ddiwethaf.

Ond mae Oli McBurnie, Wilfried Bony, Jefferson Montero, Cameron Carter-Vickers, Declan John a Joel Asoro i gyd wedi gwella erbyn hyn ac wedi bod yn ymarfer gyda’r garfan cyn y gêm yn Deepdale (3 o’r gloch).

Yr unig ddau sydd allan ar hyn o bryd o blith y chwaraewyr profiadol yw Tom Carroll a Martin Olsson.