Mae rheolwr clwb pêl-droed Caerdydd, Neil Warnock, yn teimlo’n rhwystredig wrth geisio arwyddo chwaraewyr newydd fis yma.

Gyda’r farchnad wedi ail-agor i ganiatáu i glybiau arwyddo unwaith eto, mae Neil Warnock yn cymharu her Caerdydd i arwyddo unrhyw un fel “dringo mynydd gyda menyn ar eich dwylo”.

Hyd yn hyn, mae’r clwb wedi gweld dau chwaraewr posib yn llithro o’u dwylo, gyda’r ymgais i arwyddo Nathaniel Clyne o Lerpwl, a Adrien Tameze o Nice yn mynd i’r gwellt.

Mae Neil Warnock hefyd wedi mynd i wylio’r ymosodwr Emiliano Sala yn Nantes, Ffrainc, am yr ail waith mewn mis – ond mae’n cyfaddef ei fod yn annhebygol y bydd y dyn o’r Ariannin yn dod i’r brifddinas.

“Ar un diwrnod, rydych yn teimlo fel eich bod bron iawn yno, cyn i chi lithro nôl i lawr,” meddai’r rheolwr o flaen gêm fawr yn erbyn Huddersfield ddydd Sadwrn (Ionawr 12).

Pwysau

Dim ond un safle a dau bwynt sydd rhwng Caerdydd a Huddersfield wrth iddyn nhw gyfarfod yn Stadiwm Dinas Caerdydd yfory.

“Allwch chi ddim beio’r cefnogwyr am fod eisiau arwyddo chwaraewyr, ond mae angen i ni gyd fod yn amyneddgar,” meddai Neil Warnock.

“Os na fydd dim yn digwydd, beth yw’r ots? Ni fyddaf yn colli unrhyw gwsg gyda’r garfan sydd gen i.

“Rydym wedi ei gwneud hi o’r blaen ac wedi cael amser gwych.”