Mae’r Cymro Nathan Jones wedi ei benodi’n rheolwr newydd ar dîm pêl-droed Stoke City.

Roedd y clwb yn chwilio am olynydd i Gary Rowett, a gafodd ei ddiswyddo’r wythnos hon. Mae ganddyn nhw draddodiad o benodi Cymry i’r brif swydd.

Roedd Tony Pulis wrth y llyw rhwng 2002 a 2005 ac eto rhwng 2006 a 2013, a Mark Hughes yn rheolwr rhwng 2013 a 2018.

Mae Alan Durban ac Eddie Niedzwiecki hefyd wedi treulio cyfnodau’n rheolwr dros dro yn y gorffennol.

Gyrfa

Fel chwaraewr, dechreuodd Nathan Jones o Ystrad yng Nghwm Rhondda ei yrfa yn gefnwr chwith ac yn chwaraewr canol cae gyda Merthyr Tudful rhwng 1991 a 1995.

Treuliodd e gyfnod gyda Luton heb chwarae’r un gêm, cyn ymuno â Numancia yn Sbaen. Aeth o’r fan honno i Badajoz, cyn symud i Loegr at Southend yn 1996-97.

Roedd hefyd wedi chwarae i Scarborough, Brighton & Hove Albion a Yeovil.

Dechreuodd ei yrfa fel hyfforddwr gyda thîm dan 21 Charlton Athletic, cyn mynd yn brif hyfforddwr cynorthwyol ac yna’n hyfforddwr tîm cyntaf Brighton & Hove Albion cyn cael ei benodi’n rheolwr cynorthwyol unwaith eto.

Cafodd ei benodi’n rheolwr ar Luton yn 2016.