Mae gôl geidwad Cymru a Crystal Palace wedi gwadu gwneud saliwt Natsiaidd wrth ddathlu buddugoliaeth yn erbyn Grimsby yng nghwpan FA nos Sadwrn (Ionawr 5).

Mewn llun gafodd ei roi ar blatfform cyfryngau cymdeithasol Instagram gan ei gyd-chwaraewr, Max Mayer – mae’n ymddangos bod Wayne Hennessey a’i ddwylo mewn ffurf saliwt Natsiaidd.

Bellach, mae’r llun wedi cael ei ddileu, ac mae Wayne Hennessey, sy’n 31 oed, yn gwadu ei fod wedi bwriadu gwneud saliwt o’r fath.

“Fe wnes i godi fy llaw a gweiddi ar y person oedd yn cymryd y llun i frysio ac ar yr un pryd fe roes fy llaw dros fy ngheg i wneud y sŵn gario,” meddai ar Twitter.

“Daeth i’m sylw ei fod wedi cael ei rewi mewn eiliad gan y camera, mae’n edrych fel fy mod yn gwneud math o saliwt hollol amhriodol.”

“Gallaf sicrhau pawb na fyddwn i byth, byth yn gwneud hynny ac mae unrhyw beth tebyg i’r math hwnnw o ystum yn gyd-ddigwyddiad llwyr. Cariad a heddwch, Wayne.”

Fe ddechreuodd Wayne Hennessey, sydd a 81 o gapiau i Gymru ac yn dod o Amlwch ar Ynys Môn, yn nhim Roy Hodgson yn y gêm yn erbyn Grimsby yng nghwpan FA.

Mae’r tîm ar hyn o bryd yn 14eg yn Uwch Gynghrair Lloegr.