Mae Jamille Matt, ymosodwr tîm pêl-droed Casnewydd, yn gobeithio siomi Leicester City wrth iddyn nhw deithio i Rodney Parade ar gyfer y gêm yn nhrydedd rownd Cwpan FA Lloegr heddiw (dydd Sul, Ionwr 6, 4.30).

Fe symudodd at glwb Fleetwood yn fuan ar ôl i Jamie Vardy adael am Leicester City yn 2012 – ac fe gostiodd £50,000 yn fwy na’r ymosodwr a aeth yn ei flaen i gynrychioli Lloegr.

“Roedd pawb yn uchel eu parch ato fe yn Fleetwood ac mae e wedi mynd yn ei flaen i wneud popeth,” meddai.

“Mae e wedi cael ei ddyrchafu o’r Bencampwriaeth, wedi ennill yr Uwch Gynghrair ac wedi chwarae dros Loegr.

“Mae’n anhygoel gwneud hynny o’r tu allan i’r gynghrair ac fel rhywun o’r lefel honno fy hun, dw i’n eitha’ balch o’r hyn mae e wedi ei gyflawni.”

Mae’r ddau wedi herio’i gilydd unwaith yn y gorffennol, pan oedd Jamille Matt yn chwarae i Kidderminster, a Jamie Vardy yn chwarae i Fleetwood. Cafodd Jamie Vardy ei anfon o’r cae yn y gêm honno yn 2011.

Mae e wedi sgorio 13 o goliau yn yr Ail Adran i Gasnewydd y tymor hwn, ac mae e’n gobeithio am sioc.

“Os nad ydych chi’n credu y gallwch chi ennill, fyddwch chi ddim hyd yn oed yn troi i fyny,” meddai.

“O’n safbwynt ni, all dydd Sul ddim dod yn ddigon cyflym i ni.”

Rhybudd gan Claude Puel

Yn y cyfamser, mae Claude Puel, rheolwr Leicester City, wedi rhybuddio’i dîm y bydd rhaid iddyn nhw fod ar eu gorau er mwyn ennill y gêm.

Dydy Casnewydd ddim wedi curo tîm o’r adran uchaf yn y gwpan ers 1964.

Ond fe gawson nhw gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Spurs yng Nghasnewydd y tymor diwethaf.

“Mae’n bwysig edrych ar y tîm hwn a’i hanes,” meddai’r Ffrancwr.

“Y tymor diwethaf, chwaraeon nhw’n dda gyda chanlyniad da gartref yn erbyn Spurs a bydd hi’n gêm anodd oherwydd mae’n anodd chwarae yn erbyn y tîm hwn ar gae bach.

“Maen nhw hefyd yn chwarae rygbi ar y cae hwn felly dw i ddim yn gwybod a yw’r cae yn dda ar gyfer pêl-droed.

“Maen nhw’n dîm corfforol sy’n barod i frwydro. Mae’n nodweddiadol o’r gwpan ac mae angen i ni fod yn barod ar gyfer y frwydr, bod yn gryf yn ein meddwl a bod yn barod i chwarae’r gêm.”