Aston Villa 0–3 Abertawe                                                               

Mae Abertawe yn yr het ar gyfer pedwaredd rownd y Cwpan FA yn dilyn buddugoliaeth gyfforddus oddi cartref yn erbyn Aston Villa yn y drydedd rownd brynhawn Sadwrn.

Rhoddodd gôl gynnar Baker-Richardson yr Elyrch ar y blaen cyn i Dyer a Fulton gwblhau’r fuddugoliaeth yn yr ail hanner ar Villa Park.

Dau funud yn unig a oedd ar y cloc pan roddodd Courtney Baker-Richardson yr ymwelwyr ar y blaen o groesiad isel Mike van der Hoorn.

Gwnaeth Erwin Mulder arbediad gwych i atal Scott Hogan wedi hynny a chadw’r Elyrch ar y blaen ar hanner amser.

Ar ôl sgorio wedi dau funud o’r hanner cyntaf, ailadroddodd Abertawe’r gamp yn yr ail gyfnod, Nathan Dyer yn rhwydo’r tro hwn wedi pas dreiddgar wych Leroy Fer.

Fer a greodd y dryddedd hefyd, ddeuddeg munud o’r diwedd, ei rediad pwrpasol i’r cwrt cosbi yn rhoi gôl ar blât i Jay Fulton y tro hwn.

.

Aston Villa

Tîm: Kalinic, Bree, Elphick, Hutton, Taylor, O’Hare (Kodjia 55’), Whelan (Lansbury 60’), McGinn, Adomah, Hogan (Davis 72’), El Ghazi

Cardiau Melyn: Lansbury 71’, Taylor 87’

.

Abertawe

Tîm: Mulder, Naughton, van der Hoorn (Harries 87’), Rodon, Roberts, Fer, Grimes, Dyer (James 72’), Celina, Routledge, Baker-Richardson (Fulton 71’)

Goliau: Baker-Richardson 2’, Dyer 47’, Fulton 78’

Cerdyn Melyn: Fer 90+3’

.

Torf: 30,572