Abertawe 2–2 Wigan                                                                        

Llwyddodd Abertawe i achub pwynt ar y Liberty brynhawn Sadwrn er iddynt fynd ddwy gôl ar ei hôl hi yn erbyn Wigan yn y gêm Bencampwriaeth.

Aeth yr ymwelwyr ddwy gôl ar y blaen yn yr hanner cyntaf ond sicrhaodd gôl hwyr van der Hoorn gêm gyfartal i’r tîm cartref.

Aeth Wigan ary blaen wedi dim ond deg munud, Joe Garner yn sgorio o’r smotyn wedi trosedd Wayne Routledge ar Kal Naismith yn y cwrt cosbi.

Dyblodd Garner fantais ei dîm ddeuddeg munud cyn yr egwyl gyda pheniad o gic gornel ac felly yr arhosodd hi tan hanner amser.

Roedd Abertawe’n ôl yn y gêm ar yr awr diolch i gôl i’w rwyd ei hun gan Dan Burn ac roeddynt yn gyfartal ddeg munud o’r diwedd, Mike van der Hoorn yn rhwydo o gic gornel Bersant Celina.

Mae’r canlyniad yn cadw tîm Graham Potter yn y trydydd safle ar ddeg yn y tabl

.

Abertawe

Tîm: Mulder, van der Hoorn, Carter-Vickers, Harries (Montero 45’), Routledge, Fulton (Bony 76’), Grimes, Celina, James, McBurnie, Baker-Richardson (Naughton 45’)

Goliau: Burn [g.e.h.] 60’, van der Hoorn 81’

Cardiau Melyn: Grimes 40’, Naughton 52’, van der Hoorn 90+4’

.

Wigan

Tîm: Walton, James (Byrne 61’), Kipre, Dunkley, Burn, Gibson (Connolly 80’), Massey, Evans, Morsy, Naismith, Garner (Vaughan 45’)

Goliau: Garner [c.o.s.] 10’, 34’

Cardiau Melyn: James 42’, Massey 66’, Naismith 88’, Morsy 90+4’

.

Torf: 18,591