Leicester City 0–1 Caerdydd
Cipiodd Caerdydd fuddugoliaeth ddramatig gyda gôl hwyr Victor Camarasa yn erbyn Leicester City yn Stadiwm King Power brynhawn Sadwrn (Rhagfyr 29).
Sgoriodd y Sbaenwr gôl wych yn yr amser brifo ar ddiwedd y gêm i sicrhau buddugoliaeth oddi cartref gyntaf yr Adar Gleision yn Uwch Gynghrair Lloegr y tymor hwn.
Caerlŷr a oedd tîm gorau’r hanner cyntaf ac fe wnaeth Neil Etheridge yn y gôl i Garedydd yn dda i gadw pethau’n ddi sgôr.
Roedd yr Adar Gelsion yn llawer gwell wedi’r egwyl ond cafodd Caelŷr gyfle gwych i fynd ar y blaen chwarter awr o’r diwedd wedi wedi i Simon Hooper ddynodi cic o’r smotyn ddadleuol am drosedd gan Sean Morrison ar James Maddison. Maddison a gymerodd y gic ond cafodd ei harbed gan Etheridge a gwaneth Sol Bamba yn wych i gyrraedd y bêl rydd gyntaf a’i chlirio.
Yna, fe gipiodd Caerdydd fuddugoliaeth haeddiannol gyda gôl wych yn yr ail funud o amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd gêm, Camarasa’n taro ergyd berffaith o bum llath ar hugain a mwy, gôl yn deilwng o ennill unrhyw gêm.
Mae’r tri phwynt yn codi Caerdydd i’r unfed safle ar bymtheg yn y tabl, bedwar pwynt yn glir o safleoedd y gwymp.
.
Caerlŷr
Tîm: Schmeichel, Ricardo Pereira, Soyuncu, Maguire, Chilwell, Mendy, Ndidi, Albrighton (Ghezzal 58’), Maddison, Gray (Okazaki 79’), Vardy (Iheanacho 68’)
.
Caerdydd
Tîm: Etheridge, Ecuele Manga, Morrison, Bamba, Cunningham, Gunnarsson, Hoilett (Reid 83’), Camarasa, Arter (Peltier 90+5’), Murphy (Harris 78’), Paterson
Gôl: Camarasa 90+2’
Cardiau Melyn: Etheridge 53’, Morrison 90+4’
.
Torf: 32,047