Abertawe 0–1 Aston Villa
Methodd Wilifried Bony gic o’r smotyn hwyr wrth i Abertawe golli gartref yn erbyn Aston Villa yn y Bencampwriaeth bwrynhawn Mercher, gŵyl San Steffan.
Conor Hourihane a sgroiodd unig gôl y gêm wrth i’r ymwelwyr ddianc o’r Liberty gyda’r pwyntiau i gyd.
Abertawe a gafodd y gorau o hanner cyntaf di sgôr ond roedd Villa’n well wedi’r egwyl ac aethant ar y blaen wedi ugain munud gyda pheniad Hourihane o groesiad Alan Hutton.
Daeth cyfle gwych i’r Elyrch achub pwynt pan gafodd Nathan Dyer ei lorio yn y cwrt cosbi gan Anwar El Ghazi ym munud olaf y naw deg, ond cafodd cynnig isel Bony o’r smotyn ei arbed gan Orjan Nyland.
Mae tîm Graham Potter yn llithro un lle i’r trydydd safle ar ddeg yn y tabl.
.
Abertawe
Tîm: Mulder, Roberts, van der Hoorn, Carter-Vickers, Naughton, Fulton (Dyer 70’), Grimes, Fer (Bony 69’), Celina, McBurnie, James (Montero 62’)
Cardiau Melyn: Naughton 53’, van der Hoorn 79′
.
Asron Villa
Tîm: Nyland, El Mohamady, Bree, Chester, Hutton, Whelan, El Ghazi, Hourihane (Bjarnason 90+3’), McGinn, Bolasie (Adomah 76’), Abraham (Kodjia 88’)
Gôl: Hourihane 65’
Cardiau Melyn: Whelan 21’, McGinn 80′
.
Torf: 20,775