Wnaeth tîm pêl-droed Abertawe ddim amddiffyn yn ddigon da wrth golli o 3-2 yn Hull ddoe (dydd Sadwrn, Rhagfyr 22), yn ôl eu rheolwr Graham Potter.

Aeth yr Elyrch ar y blaen ar ôl tair munud diolch i chwip o gôl gan Wilfried Bony, ac fe arhoson nhw ar y blaen tan yn hwyr yn yr ail hanner.

Sgoriodd Jarrod Bowen ddwywaith y naill ochr i gôl gan Tommy Elphick wrth i Hull fynd ar y blaen o 3-1 gyda deng munud yn weddill.

Daeth gôl gysur i Bersant Celina ar ôl 88 munud.

Trafferth

“Wnaethon ni ddim amddiffyn yn ddigon da,” meddai Graham Potter.

“Os ydych chi’n ildio tair gôl, rydych chi mewn trafferth mewn unrhyw gêm.

“Pan fo’n 1-0, mae’r gêm yn dal yn fyw a gall y dorf chwarae rhan.”

Ond wnaeth yr Elyrch fethu â rheoli rhannau helaeth o’r gêm, gan alluogi Hull i daro’n ôl wrth fanteisio ar gamgymeriadau amddiffynnol.

“Am y 35 munud cyntaf yn yr hanner cyntaf, fe wnaethon ni reoli pethau a symud i mewn i ardaloedd da a chreu ambell gyfle da,” ychwanega Graham Potter.

“Yn y Bencampwriaeth, rhaid i chi fod yn fwy clyfar. Yn y gynghrair hon, does dim angen i chi wneud llawer iawn i gael y dorf y tu ôl i chi unwaith eto.

“Mae goliau’n newid natur pethau. Mae hynny’n beth cyffredin yn y Bencampwriaeth lle mae’n mynd braidd yn ddi-drefn.”