Y Barri 2–1 Caernarfon                                                                     

Cadwodd y Barri y pwysau ar Gei Connah ar frig Uwch Gynghrair Cymru gyda buddugoliaeth dros Gaernarfon ar Barc Jenner nos Sadwrn.

Momodou Touray a sgoriodd y gôl holl bwysig yn yr ail hanner wrth i dîm Gavin Chesterfield barhau â’u tymor anhygoel.

Y Barri a ddechreuodd orau heb os ac roedd angen arbediad dwbl da gan Alex Ramsey i gadw pethau’n ddi sgôr wedi chwe munud.

Fu dim rhaid i’r tîm cartref aros yn hir cyn agor y sgorio serch hynny, Kayne McLaggon yn rhwydo yn y canol wedi gwaith da Macauley Southam-Hales ar y dde.

Parhau i reoli a wnaeth y Barri wedi hynny ond roedd Caernarfon yn gyfartal yn erbyn llif y chwarae wedi ugain munud, Gareth Evans yn cael blaen ei droed i’r bêl o flaen pawb arall yn y cwrt chwech wedi pwniad gwan Mike Lewis yn y gôl.

Felly yr arhosodd pethau tan hanner amser ond roedd y Barri yn ôl ar y blaen toc cyn yr awr, y bêl yn adlamu’n garedig i Touray ar ochr y cwrt chwech a’r blaenwr yn gorffen yn daclus.

Cafodd y ddau dîm eu cyfleoedd wedi hynny ond gwnaeth y Barri ddigon i ddal eu gafael ar y tri phwynt. Mae’r canlyniad yn cadw’r Barri yn ail yn y tabl, bwynt yn unig y tu ôl i Gei Connah ar y brig. Mae Caernarfon ar y llaw arall yn aros yn seithfed.

.

Y Barri

Tîm: Lewis, Southam-Hales, Hugh, Cosslett, Watkins, Patten, Greening (Cotterill 84’), Green, Touray (Gerrard 87’), McLaggon, Hood

Goliau: McLaggon 10’, Touray 57’

Cardiau Melyn: Southam-Hales 24’, Green 72’, Cotterill 90+3′

.

Caernarfon

Tîm: Ramsey, Williams, Craig, G. Edwards, Evans, Crowther, Breese, Brookwell (Jones 76’), Williams, Bradley, N. Edwards (Thomas 77’)

Gôl: G. Edwards 21’

Cerdyn Melyn: Williams 5’, Edwards, Crowther

.

Torf: 459