Lincoln 3–2 Casnewydd                                                                   

Rhoddodd Casnewydd ormod o fynydd i’w hunain i ddringo wrth ildio dwy gôl gynnar yn erbyn Lincoln yn Sincil Bank brynhawn Sadwrn.

Tarodd yr Alltuduion yn ôl wedi hynny yn y gêm Ail Adran ond y tîm cartref a aeth â hi yn y diwedd.

Dechreuodd Lincoln ar dân gyda dwy gôl yn y saith munud agoriadol. Methodd Casnewydd a chlirio’r bêl yn ddigon pell wedi cic gornel a rhoddodd John Akinde’r tîm cartref ar y blaen o groesiad Tom Pett. Dyblodd Harry Anderson y fantais wedi rhediad da o’r dde ac ergyd isel gywir.

Felly yr arhosodd hi tan funud olaf yr hanner pan roddodd Padraig Amond yr ymwelwyr o Gymru yn ôl yn y gêm, yn gorffen yn y cwrt cosbi wedi cic gornel.

Cyfunodd Pett ac Akinde unwaith eto i adfer dwy gôl o fantais y tîm cartref hanner ffordd trwy’r ail hanner, Akinde’n creu a Pett yn gorffen y tro hwn gyda foli gelfydd.

Roedd yr Alltudion yn ôl yn y gêm unwaith eto ddeg munud yn ddiweddarach diolch i ail gôl Amond, y Gwyddel yn codi’r bêl yn gelfydd dros Grant Smith i gau’r bwlch.

Rhy ychydig rhy hwyr a oedd hi serch hynny wrth i Lincoln ddal eu gafael. Mae’r canlyniad yn rhoi tîm Mike Flynn allan o’r safleoedd ail gyfle wrth iddynt lithro dau le i wythfed.

.

Lincoln

Tîm: Smith, Eardley, Bostwick, Shackell, Toffolo, Anderson, Frecklington, O’Connor (Wharton 81’), Pett, Akinde (Rhead 74’), McCartan (Carvalho Andrade 61’)

Goliau: Akinde 3’, Anderson 7’, Pett 67’

Cerdyn Melyn: Toffolo 81’

.

Casnewydd

Tîm: Day, Pipe (Sheehan 89’), Franks, O’Brien, Butler, Dolan (Labadie 56’), Bennett, Willmott (Harris 71’), Matt, Amond, Semenyo

Goliau: Amond 45’, 77’

Cardiau Melyn: Bennett 55’, Labadie 73’

.

Torf: 8,632