Mae tîm pêl-droed Abertawe’n dechrau ar gyfnod o bedair gêm mewn 11 o ddiwrnodau heddiw (dydd Sadwrn, Rhagfyr 22), wrth i’r Elyrch deithio i Hull.

Byddan nhw’n croesawu Aston Villa i’r Liberty ar Ddydd San Steffan, a Wigan bedwar diwrnod yn ddiweddarach, cyn teithio i Reading ar Ddydd Calan.

Pe bai’r Elyrch yn sicrhau triphwynt heddiw, byddan nhw wedi ennill tair gêm yn olynol am y tro cyntaf ers i Graham Potter gael ei benodi’n rheolwr.

Mae rheoli tîm dros gyfnod y Nadolig yn brofiad newydd i Graham Potter, ar ôl treulio saith mlynedd yn Ostersunds yn Sweden, lle mae’r tymor yn cael ei gynnal rhwng Ebrill a Thachwedd.

‘Edrych ymlaen’

“Roedd ychydig yn wahanol y tymor diwethaf gan fod Ostersunds yn chwarae yng Nghynghrair Europa ym mis Rhagfyr, ac roedden ni’n paratoi ar gyfer y gêm yn erbyn Arsenal ar yr adeg hon y llynedd,” meddai Graham Potter.

“Felly dyma fy mhrofiad cyntaf o hyn fel rheolwr, a dw i’n edrych ymlaen yn fawr iawn.

“Mae llawer o gemau, rhai gemau diddorol, a gemau mawr.

“[Triphwynt] yw’r cyfan allwch chi obeithio amdanyn nhw. Rhaid i ni ganolbwyntio ar y gêm nesaf, gêm anodd oddi cartref yn erbyn tîm [Hull] sydd wedi bod yn chwarae’n dda.

“Fe gadwon nhw lechen lân yn erbyn Norwich, sydd ddim yn hawdd, a churo Brentford felly maen nhw mewn lle da ac rydyn ni’n disgwyl gêm anodd.”