Fe fydd rheolwr dros dro Manchester United, Ole Gunnar Solskjaer, yn wynebu ei hen glwb, Caerdydd, dros y penwythnos.

Dyma fydd gêm gyntaf y gŵr o Norwy yn ei swydd newydd, wedi iddo gael ei ddewis i gymryd yr awenau oddi ar Jose Mourinho, a gafodd ei ddiswyddo gan y clwb ddoe (dydd Mawrth, Rhagfyr 18).

Fe fydd y rheolwr dros dro yn arwain Manchester United tan ddiwedd y tymor, pan fydd hyfforddwr parhaol yn cael ei ddewis.

Bu Ole Gunnar Solskjaer yn arwain yr Adar Gleidion rhwng Ionawr a Medi 2014, pan fethodd ag atal y clwb rhag cael ei hel o’r Uwch Gynghrair. Yn ystod ei naw mis wrth y llyw, enillodd ddim ond naw gêm allan o 30, gan golli 16 a dod yn gyfartal mewn pump.

Fe fydd Manchester United yn herio’r Adar Gleision yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sadwrn (Rhagfyr 22), ac mae disgwyl i’r gêm gychwyn am 5.30yp.