Mae cefnogwr tîm pêl-droed Tottenham Hotspur wedi cael ei ddirwyo ar ôl taflu croen banana at chwaraewr Arsenal mewn ymosodiad oedd ag “elfen hiliol”.

Fe gyfaddefodd Averof Panteli i daflu’r croen ar y cae yn Stadiwm Emirates ar ôl i ymosodwr Arsenal, Pierre-Emerick Aubameyang sgorio yn erbyn ei dim a dathlu o flaen cefnogwyr Tottenham.

Dywedodd y gyrrwr faniau, sy’n 57 oed, ei fod wedi pigo fyny’r croen banana mewn “ymateb yn y foment” ond mae’n gwadu bod unrhyw fwriad o fod yn hiliol ganddo.

Fe glywodd Llys Ynadon Highbury heddiw (dydd Mawrth, Rhagfyr 18) Averof Panteli yn honni nad oedd unrhyw elfen hiliol i’r weithred, a’i bod “jest wedi digwydd”. Fe gafodd ei ddal ar gamerâu CCTV y stadiwm a’i hebrwng gan un o’r stiwardiaid ar ddiwrnod y gêm yn gynharach fis yma.

Mae’r tad i dri, sydd o dras Roegaidd, ei ddirwyo £500 – sy’n cynnwys £100 am yr elfen hiliol, ynghyd â £135 o gostau ychwanegol,

Mae’r drosedd o daflu taflegryn i ardal chwarae pêl-droed yn groes i Ddeddf Bêl-droed (Troseddau) 1991.