Fe fydd tîm pêl-droed Cymru yn chwarae yng ngogledd Cymru am y tro cyntaf ers deg mlynedd pan fyddan nhw’n herio Trinidad a Tobago yn y flwyddyn newydd.

Bydd y gêm gyfeillgar yn cael ei chynnal ar y Cae Ras yn Wrecsam ar Fawrth 20.

Mae Cymru wedi chwarae yno o’r blaen, a hynny yn 2008 pan lwyddon nhw i ennill o 3-0 yn erbyn Norwy.

Y gêm yn erbyn Trinidad a Tobago fydd gêm gyntaf carfan Ryan Giggs yn 2019, ac fe fydd yn rhan o’r paratoadau ar gyfer y gêm ragbrofol yn erbyn Slofacia yng Nghaerdydd bedwar diwrnod yn ddiweddarach.

Y tro diwethaf i Gymru wynebu carfan y ddwy ynys yn Ne America oedd ym mis Mai 2006, pan sgoriodd Robert Earnshaw ddwywaith a sicrhau buddugoliaeth o 2-1.

“Prawf diddorol”

“Dw i’n falch iawn ein bod yn gallu chwarae yn y Cae Ras am y tro cyntaf mewn deng mlynedd,” meddai Ryan Giggs, rheolwr tîm cenedlaethol Cymru.

“Roedd y gefnogaeth yn anhygoel yn ystod y sesiwn hyfforddi agored yno ym mis Mai, gan danio ein dyhead i chwarae gêm lawn eto yn y cae hanesyddol.

“Bydd Trinidad a Tobago yn brawf diddorol i ni ac yn gyfle grêt i baratoi cyn ei hymgyrch ragbrofol Ewro 2020.”