Mae Manchester United wedi cyhoeddi bod Jose Mourinho wedi gadael y clwb.

Mae’r gŵr 55 oed o Bortiwgal wedi bod yn rheolwr ar y clwb ers dwy flynedd a hanner.

Yn ystod ei gyfnod yno, roedd wedi sicrhau llwyddiant ym mhencampwriaethau Cwpan y Gynghrair a’r Europa League.

Ond daw ei ymadawiad yn sgil y gêm aflwyddiannus yn erbyn Lerpwl ddydd Sul (Rhagfyr 16), pan gollodd Manchester United o dair gôl i un.

Mae’r clwb ar hyn o bryd yn y chweched safle yn y Premier League ac 19 o bwyntiau y tu ôl i Lerpwl.

Mewn datganiad, mae Manchester United wedi diolch i Jose Mourinho am ei waith i’r clwb, gan ychwanegu y bydd yna reolwr dros dro yn cael ei benodi tan ddiwedd y tymor cyn dewis un newydd