Y Drenewydd 3–1 Llandudno                                                        

Mae trafferthion Llandudno tua gwaelodion Uwch Gynghrair Cymru’n parhau wedi iddynt golli yn erbyn y Drenewydd ar Barc Latham nos Sadwrn.

Rhoddodd y Robiniaid hwb i’w gobeithion eu hunain o orffen yn y chwech uchaf ond mae Llandudno yn aros ar waelod y tabl ar ôl colli o dair gôl i un.

Wedi ugain munud cyntaf digon distaw, fe aeth y Drenewydd ar y blaen gyda chic o’r smotyn. Steve Leslie yn rhwydo o ddeuddeg llath yn dilyn trosedd Kai Edwards ar Luke Boundford.

Roedd Llandudno’n gyfartal o fewn deg munud serch hynny, y bêl yn adlamu’n garedig i Matty Williams ar ochr y cwrt cosbi ac yntau’n taro bwled o ergyd heibio i Dave Jones yn y gôl.

Ar ôl y gôl, gorffennodd yr ymwelwyr yr hanner cyntaf yn gryf ond aros yn gyfartal a wnaeth hi.

Dechreuodd Llandudno’n addawol wedi’r egwyl hefyd ond y Drenewydd a sgoriodd nesaf, ddeg munud ar ôl troi. Neil Mitchell yn penio i gefn y rhwyd o groesiad Sam Phillips wedi gwrthymosodiad chwim.

Ac roedd y fuddugoliaeth bron yn ddiogel erbyn hanner ffordd trwy’r ail hanner diolch i gôl Callum Roberts, y cefnwr chwith yn codi’r bêl dros Connor Roberts o ochr y cwrt cosbi.

Mae’r canlyniad yn gadael Llandudno ar waelod y tabl ac yn codi’r Drenewydd i’r pumed safle gyda phedair gêm tan y toriad.

.

Y Drenewydd

Tîm: Jones, Roberts, Mills-Evans, Denny, Mitchell, Rushton, Boundford, S. Leslie, J. Leslie, Phillips (Jones 87’), Fletcher

Goliau: S. Leslie [c.o.s.] 21’, Mitchell 55’, Roberts 67’

Cardiau Melyn: Roberts 2’, Mills-Evans 37’, Fletcher 53’

.

Llandudno

Tîm: Roberts, Pearson, Smith, K. Edwards, Williams (Harry 74’), Hughes, Thomas (Cklark 84’), Webb, Connolly, Z. Edwards, Jones

Gôl: Williams 30’

Cardiau Melyn: Connolly 65’, Smith 80’, K. Edwards 90’

.

Torf: i ddilyn