Watford 3–2 Caerdydd                                                                     

Colli fu hanes Caerdydd yn erbyn Watford brynhawn Sadwrn wr iddynt daro nôl i greu diweddglo difyr yn y gêm Uwch Gynghrair Lloegr ar Vicarage Road.

Roedd y tîm cartref dair gôl ar y blaen gyda deg munud yn weddill ond cael a chael a oedd hi yn y diwedd wedi i Hoilett a Reid dynnu dwy yn ôl i’r ymwelwyr o Gymru.

Chwarter awr yn unig a oedd ary cloc pan yr aeth Watford ar y blaen gyda gôl unigol wych Gerard Deulofeu. Rhedodd y Catalwniad gyda’r bêl i’r cwrt cosbi, curo Sean Morrison a Bruno Ecuele Manga cyn anelu’n gywir heibio i Neil Etheridge yn y gôl.

Cafodd yr Adar Gleison gyfnod go lew wedi hynny ond roedd y tîm cartref yn gymharol gyfforddus wrth amddiffyn eu gôl o fantais tan yr egwyl.

Dechreuodd yr ail hanner, fel y cyntaf, gyda Watford yn rheoli ac yn sgorio’n gynnar. Roedd Deulofeu yn ei chanol hi eto, yn creu y tro hwn i Jose Holebas, a orffennodd yn wych gydag ergyd gywir i’r gornel uchaf o ugain llath a mwy.

Roedd buddugoliaeth Watford yn ymddangos yn ddiogel hanner ffordd trwy’r ail hanner diolch i gôl Domingos Quina. Roedd hon, fel y ddwy flaenorol, yn gôl o safon, cynnig gwych o bellter gan y gŵr ifanc o Guineau-Bissau.

Mewn gêm o goliau gwych, roedd Junior Hoilett yn awyddus i ymuno yn yr hwyl, a gwnaeth hynny mewn steil ddeg munud o’r diwedd, yn tynnu un yn ôl i Gaerdydd gyda chryman o ergyd debyg iawn i honno a enillodd y gêm yn erbyn Wolves bythefnos yn ôl.

Rhoddodd hynny lygedyn o obaith i dîm Neil Warnock ac roeddynt yn ôl yn y gêm ddau funud yn ddiweddarach wedi gôl Bobby Reid, gôl flêr gyntaf y gêm ac amheuaeth o gamseflyll gan Sol Bamba yn gynharach yn y symudiad.

Ond rhy ychydig rhy hwyr a eodd hi wrth i Watford ddal eu gafael tan y diwedd. Mae’r canlyniad yn gadael Caerdydd yn yr unfed safle ar bymtheg yn nhabl yr Uwch Gynghrair.

.

Watford

Tîm: Foster, Femenia, Kabasele, Cathcart, Holebas, Doucoure, Quina, Sema (Success 77’), Pereyra, Deulofeu (Cleverley 87’), Deeney (Okaka 81’)

Gôl: Deulofeu 16’, Holebas 52’, Quina 68’

.

Caerdydd

Tîm: Etheridge, Ecuele Manga, Morrison, Bamba, Bennett (Peltier 59’), Gunnarsson (Reid 78’), Hoilett, Camarasa, Arter, Murphy (Mendez-Laing 45’), Paterson

Goliau: Hoilett 80’, Reid 82’

.

Torf: 20,032