Mae rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, Graham Potter wedi dweud wrth golwg360 y gall Wifried Bony “ddychwelyd i’w bêl-droed orau” er ei anafiadau parhaus.

 Fe gafodd yr ymosodwr o’r Côte d’Ivoire anaf i’w gewyn croesffurf blaen (anterior cruciate ligament) fis Chwefror diwethaf, a ddaeth â’i dymor i ben, a dim ond fis diwethaf y dychwelodd i’r garfan eto.

 Ac mae Graham Potter yn dweud ar drothwy’r gêm yn erbyn Sheffield Wednesday yn Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn fod yr ymosodwr wedi teimlo cyhyr yn dynn yn ei goes wrth ymarfer yr wythnos hon.

 Ffenest siop

 Daw’r anaf ar adeg pan fydd ei berfformiadau dros yr wythnosau nesaf, o bosib, yn denu diddordeb o’r tu allan pe bai’n aros yn holliach ac yn gallu profi ei ffitrwydd.

 “Yn achos Wilf, mae angen i ni ei gael e’n ôl i ffitrwydd llawn ac ym mis Ionawr, mae pethau weithiau y tu hwnt i’ch rheolaeth os yw’r chwarae eisiau [gadael] neu fod rhywbeth y gall y clwb ei wneud,” meddai.

 “Does gyda fi ddim rheolaeth lawn o bopeth a dw i’n cadw meddwl agored o ran y potensial i rywbeth ddigwydd.

 “Mae e wedi bod allan am gyfnod hir, felly byddwn i’n dwp pe bawn i’n gwastraffu amser gyda fe’n siarad am yr hyn allai ddigwydd ym mis Ionawr.

 “Mae angen i ni sicrhau ei fod e’n mwynhau ei bêl-droed eto oherwydd mae e wedi bod allan am gyfnod mor hir. Dw i’n gwybod fod pobol yn cyffroi o weld yr hyn all Wilf ei wneud ond y realiti yw bod angen bod yn amyneddgar.

 “Does dim rheswm pam na all Wilf ddychwelyd i’w bêl-droed orau. Ond rhaid i ni ddeall ei fod e wedi cael ei anafu’n ddifrifol ac nad yw e wedi chwarae ryw lawer.

 “Mae angen i ni weithio gyda fe, gwneud y pethau cywir a does dim rheswm, os gwnawn ni hynny, pam na all e ddod yn ôl yn gwbl holliach a mwynhau ei bêl-droed.”