Fe allai’r anaf a fydd yn cadw cefnwr chwith Abertawe, Martin Olsson allan am weddill y tymor gynnig cyfle annisgwyl i’r Cymro, Declan John.

Tair gêm yn unig mae e wedi’u chwarae ers symud o Rangers ar ddechrau’r tymor, wrth i’r Elyrch droi ar wahanol adegau at Connor Roberts neu Matt Grimes i lenwi’r bwlch.

Mae Connor Roberts yn fwy cyfforddus ar y dde, a Matt Grimes fel arfer yn chwarae yng nghanol y cae.

Ar hyn o bryd, Declan John yw’r unig gefnwr chwith cydnabyddedig sy’n ffit i chwarae wrth i’r Elyrch baratoi i groesawu Sheffield Wednesday i Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn.

“Mae’n golygu bod cyfle i rywun arall, ac mae gyda ni sawl opsiwn yn y safle hwnnw,” meddai Graham Potter. “Ry’n ni’n iawn o ran ei gyfro fe.”

Amynedd

Ar ôl cyfnod anodd yn Rangers, lle chwaraeodd e mewn 14 o gemau’n unig y tymor diwethaf, mae Graham Potter yn credu y bydd rhaid i Declan John a’r clwb fod yn amyneddgar wrth iddo ymgyfarwyddo â bod ar y cae unwaith eto.

“Amynedd yw’r peth mawr,” meddai. “Mae yna gyfnod o addasu ac roedd e braidd yn anffodus o gael cwpwl o anafiadau, ac efallai nad yw e wedi tanio cystal ag y byddai wedi hoffi.

“Ond mae e’n gweithio’n galed ac yn gwella dros gyfnod o amser.

“Mae’n dda cael chwaraewyr sy’n gallu i addasu i wahanol safleoedd a sefyllfaoedd. Mae’n eu gwneud nhw’n well yn eu hoff safleoedd, felly mae gyda ni sawl opsiwn mewn sawl safle.”

Angen chwaraewr newydd?

Tra bod gan Abertawe chwaraewyr fel Connor Roberts, Declan John a Matt Grimes sy’n gallu camu i esgidiau Martin Olsson, mae Graham Potter yn gyndyn o chwilio y tu allan i’r clwb am chwaraewr newydd.

“Mae ein cynlluniau ni ar gyfer mis Ionawr yn eithaf cyson.

“Ry’n ni’n gwybod fod angen i ni well os gallwn ni ond fel dw i wedi dweud o’r blaen, fy ngwaith fel hyfforddwr yw gwella’r chwaraewyr sydd gyda ni.

“Ar yr un pryd, mae angen i ni geisio cryfhau. Mae colli Martin [Olsson] yn ergyd, ond mae gyda ni opsiynau yn yr ardal honno ar y cae. Mae pedair gêm cyn i’r ffenest drosglwyddo agor, felly cawn weld beth fydd yn digwydd.”