Fe fydd timau pêl-droed Caernarfon a Bangod yn wynebu’i gilydd yn Nanpoth ym mis Ionawr ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru.

Mae hi’n siŵr o fod yn gêm fawr, gyda’r ddau hen elyn yn mynd benben unwaith eto yn 16 olaf y bencampwriaeth.

Mae’r gêm rhwng Bangor, sydd wedi ennill Cwpan Cymru wyth gwaith – a Chaernarfon yn sefyll allan ymysg yr wyth gêm arall a gafodd eu cyhoeddi ar raglen Sgorio ar S4C neithiwr (nos Lun, Rhagfyr 10).

Ar hyn o bryd, mae clwb dinas Bangor yn bedwerydd yng Nghynghrair Huws Gray Cymru, tra bod Caernarfon yn seithfed yn Uwch Gynghrair Cymru.

Mae disgwyl i o gwmpas 1,000 o gefnogwyr Caernarfon wneud ei ffordd i gae Nanporth ym Mangor pan gynhelir y gêm ar benwythnos y 26ain a’r 27ain o Ionawr 2019.

Mae rhai o’r gemau eraill yn gweld Llangefni, wnaeth gicio Llanelli allan o’r gwpan ar ddydd Sadwrn (Rhagfyr 9, gartref yn erbyn Llandudno.

Bydd enillwyr y gwpan flwyddyn ddiwethaf, Cei Connah, yn teithio lawr i Gaerfyrddin.

Pedwaredd Rownd Cwpan Cymru

Aberystwyth v Met Caerdydd

Airbus v Y Seintiau Newydd

Bangor v Caernarfon

Y Barri v Derwyddon Cefn

Cambrian & Clydach BGC v Rhyl

Caerfyrddin v Cei Connah