Mae sylfaenydd ymgyrch i ddileu hiliaeth o’r byd pêl-droed wedi dweud bod angen i benaethiaid fynd i’r afael â hiliaeth o fewn y gamp.

Mae’r Arglwydd Ouseley, sylfaenydd ymgyrch Kick It Out, wedi ymateb yn dilyn honiadau bod chwaraewr Manchester City, Raheem Sterling, wedi cael ei sarhau’n hiliol gan gefnogwyr Chelsea yn Stamford Bridge ddoe (dydd Sadwrn, Rhagfyr 8).

Mae’n dweud fod prinder arweiniad ar y lefel uchaf, gan feirniadu cadeirydd Uwch Gynghrair Lloegr, Richard Scudamore a chadeirydd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr, Greg Clarke.

“Mae’r hyn ddigwyddodd yn Chelsea yn dangos beth sy’n digwydd o hyd yn y byd pêl-droed,” meddai mewn datganiad.

“Ble mae Richard Scudamore? Ble mae Greg Clarke? Ble mae cadeirydd Chelsea? Dylen nhw fod wedi trafod hyn neithiwr ac mae angen ymdrin â hyn oddi uchod.

“Does gyda ni ddim arweiniad ar frig y gêm i siarad yn gyhoeddus. Maen nhw’n dibynnu ar Kick It Out.”

Sylwadau sarhaus

Mae’n ymddangos i Raheem Sterling gael ei sarhau’n hiliol wrth fynd i gasglu’r bêl yn ystod hanner cynta’r gêm.

Mae deunydd o’r digwyddiad wedi’i rannu ar wefannau cymdeithasol.

Ac ers hynny, ar ei dudalen Instagram, mae’r chwaraewr wedi beirniadu’r papurau newydd am danio mwy o hiliaeth.

Ymhlith y rhai sydd yn ei gefnogi mae’r cyn-chwaraewyr Gary Lineker, Ian Wright, Shaun Goater a’r digrifwr Adil Ray.

Piers Morgan yn anghytuno

Ond mae’r newyddiadurwr Piers Morgan yn dweud ei fod yn anghytuno bod y ffordd y mae Raheem Sterling yn cael ei drin yn hiliol.

Dywedodd ei fod yn cael mwy o sylw nag eraill oherwydd ei broffil uchel.

“Newidiwch ‘Rooney’ am ‘Sterling’ yn yr holl benawdau mae pawb yn eu trydar, a dywedwch wrtha i eu bod nhw’n dal yn ‘hiliol’,” meddai ar Twitter.

“Mae’r ddau wedi cael cryn sylw (da a drwg) gan y cyfryngau oherwydd fod chwaraewyr gorau Lloegr yn gwerthu papurau. Maen nhw hefyd yn manteisio ar y cyfryngau i’w hyrwyddo eu hunain.”

Fe fydd cyflwynydd Good Morning Britain yn trafod y mater â gohebydd The Times yfory (dydd Llun, Rhagfyr 10).