Y Fflint G – G Y Bala                                    

Bu rhaid gohirio gêm fyw Sgorio nos Sadwrn wedi i lifoleuadau Cae y Castell, Y Fflint, fethu.

Roedd y Fflint yn croesawu’r Bala i’w maes ar gyfer gêm yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru ond bydd yn rhaid ail drefnu’r gêm yn dilyn problem gyda’r goleuadau.

Bu rhaid gohirio’r gic cyntaf am ddeg munud i ddechrau oherwydd y broblem ond fe wnaeth y gêm ddechrau ac fe gafwyd gôl gynnar gan Kieran Smith i’r ymwelwyr wedi dim ond munud o chwarae.

Ond, yn anffodus, gwta funud yn ddiweddarach, ddiffodd a wnaeth y goleuadau eto. Ac er i’r dyfarnwr roi deg munud go lew i’r clwb ddatrys y broblem, nid oedd dim yn tycio a bu rhaid gohirio.