Wrecsam 2–0 Eastleigh                                                                    

Cafodd Wrecsam ddechrau da i fywyd wedi Sam Ricketts gyda buddugoliaeth yn erbyn Eastleigh ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn.

Mae’r fuddugoliaeth yn cadw’r Dreigiau, a oedd heb ennill yn eu tair gêm gynghrair ddiwethaf, o fewn cyrraedd y timau ar frig Cynghrair Genedlaethol Lloegr hanner ffordd union trwy’r tymor.

Graham Barrow sydd yng ngofal y tîm dros dro yn dilyn ymadawiad dadleuol Ricketts ac fe roddodd y chwaraewyr yr anrheg perffaith iddo gyda gôl agoriadol o fewn y ddau funud cyntaf, James Jennings yn rhwydo.

Dyblodd Bobby Grant y fantais toc cyn yr awr ac roedd hynny’n ddigon i’r Cymry wrth iddynt gadw llechen lân yn y cefn.

Aeth canlyniadau eraill o blaid y Dreigiau ddydd Sadwrn hefyd wrth i’r ddau dîm ar y brig, Leyton Orient a Salford golli eu gemau hwy. Golyga hynny fod Wrecsam, er yn aros yn y pedwerydd safle, yn cau’r bwlch i’r brig i bedwar pwynt.

.

Wrecsam

Tîm: Lainton, Roberts (Young 51’), Jennings, Rutherford, Summerfield, Smith, Carrington Wright, Lawlor, Beavon (Holroyd 80’), Grant (Fondop-Talom 90’)

Goliau: Jennings 2’, Grant 58’

.

Eastleigh

Tîm: Srtyjek, Hare, Boyce, Gobern, wynter, Johnson, Yeates, Miley (Green 76’), Hollands, Williamson (Dennett 81’), McCallum

.

Torf: 4,105