Mae’r Cymro Mark Hughes wedi cael ei ddiswyddo fel rheolwr Southampton ar ôl wyth mis.

Ar hyn o bryd mae Southampton yn eistedd yn 18fed yn y tabl ar ôl gem gyfartal yn erbyn Manchester United dros y penwythnos.

Roedd y canlyniad yn golygu bod Southampton wedi chwarae 10 gem heb ennill yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Er i Mark Hughes lwyddo i gadw’r tîm yn y gynghrair y llynedd – dim ond pum gem allan o 27 mae’r clwb wedi ennill o dan ei reolaeth.

Fe ymunodd y Cymro 55 oed – a chwaraeodd i Southampton yn ystod ei yrfa – fel rheolwr ym mis Mawrth, ddeufis ar ôl cael ei ddiswyddo gan Stoke City.

Mi fydd hyfforddwr y tîm cyntaf, Kelvin Davies, yn rheoli’r tîm wrth iddynt wynebu Tottenham ar ddydd Mercher (Tachwedd 5).