Bydd tîm pêl-droed Cymru’n cystadlu yng Ngrŵp E yn rowndiau rhagbrofol Ewro 2020.

Mae tîm Ryan Giggs yn yr un grŵp â Chroatia, Slofacia, Hwngari ac Azerbaijan.

Cafodd enwau’r 55 o wledydd eu tynnu o’r het mewn seremoni yn Nulyn fore heddiw (dydd Sul, Rhagfyr 2), a’u dosbarthu allan o saith pot i ddeg grŵp.

Cyrhaeddodd Cymru y rownd gyn-derfynol yn Ffrainc yn 2016, gan golli yn y pen draw o 2-0 yn erbyn Portiwgal.

Am y tro cyntaf, bydd y rowndiau terfynol yn cael eu cynnal ar draws nifer o ddinasoedd yn Ewrop – Llundain, Munich, Rhufain, Baku, St Petersburg, Bucharest, Amsterdam, Dulyn, Bilbao, Budapest, Glasgow a Copenhagen.

Bydd y rownd derfynol yn cael ei chynnal yn Wembley ar Orffennaf 12, 2020.

Y grwpiau’n llawn

Dyma’r grwpiau’n llawn ar gyfer gemau rhagbrofol Ewro 2020.

Grŵp A: Lloegr, Gweriniaeth Tsiec, Bwlgaria, Montenegro, Kosovo

Grŵp B: Portiwgal, Yr Wcráin, Serbia, Lithwania, Lwcsembwrg

Grŵp C: Yr Iseldiroedd, Yr Almaen, Gogledd Iwerddon, Estonia, Belarws

Grŵp D: Y Swistir, Denmarc, Gweriniaeth Iwerddon, Georgia, Gibraltar

Grŵp E: Croatia, CYMRU, Slofacia, Hwngari, Azerbaijan

Grŵp F: Sbaen, Sweden, Norwy, Rwmania, Ynysoedd Ffaroe, Melita

Grŵp G: Gwlad Pwyl, Awstria, Israel, Slofenia, Macedonia, Latfia

Grŵp H: Ffrainc, Gwlad yr Iâ, Twrci, Albania, Moldofa, Andorra

Grŵp I: Gwlad Belg, Rwsia, Yr Alban, Cyprus, Kazakhstan, San Marino

Grŵp J: Yr Eidal, Bosnia-Herzegovina, Y Ffindir, Groeg, Armenia, Liechtenstein