Mae Joe Allen, sy’n chwarae i glwb pêl-droed Stoke City, wedi wfftio adroddiadau ei fod wedi cael ei gnoi gan chwaraewr o Derby yn ystod gêm rhwng y ddau glwb neithiwr (nos Fercher, Tachwedd 28).

Mae’n debyg bod y ddau wedi gwrthdaro yn dilyn ffrae rhwng Peter Etebo a Richard Keogh.

Fe gafodd y gêm ei darlledu’n fyw ar sianel Sky Sports, ac mae clipiau’n dangos yr hyn sy’n edrych yn debyg i’r chwaraewr canol cae, Bradley Johnson, yn cnoi ysgwydd y Cymro.

Cafodd enwau’r ddau eu cofnodi gan y dyfarnwr yn dilyn y digwyddiad.

“Fe ofynnodd pobol i mi adeg hanner amser beth oedd wedi digwydd, gan awgrymu fy mod i wedi cael fy nghnoi,” meddai Joe Allen. “Ond i glirio hynny, wnaeth hynny ddim digwydd.

“Efallai y cafodd afael mewn darn o’m crys, ond dw i’n meddwl y gallwn ni roi hyn o’r neilltu.”

Fe lwyddodd Stoke i drechu Derby neithiwr o ddau gôl i un.