Barrow 0–0 Wrecsam                                                                       

Mae Wrecsam yn parhau’n dryddydd yn Nghynghrair Genedlaethol Lloegr wedi gêm gyfartal ddi sgôr yn erbyn Barrow yn Holker Street nos Fawrth.

Ar noson gyda chyfleoedd yn brin yn y ddau ben, Paul Rutherford a ddaeth agosaf at ei chipio hi i’r ymwelwyr o ogledd Cymru yn yr ail hanner ond cafodd ei gynnig ei arbed gan Joel Dixon.

Nid yw’r canlyniad yn newid dim ar drefn y tri uchaf ond mae Wrecsam yn colli mymryn o dir ar Salford yn yr ail safle gan mai hwy, gyda’u buddugoliaeth yn erbyn Harrogate, a oedd yr unig un o’r tri i ennill.

.

Barrow

Tîm: Dixon, Barthram, Norrington-Davies, Taylor, Wilson (Brown 46’), Granite, Jameson, Agustien (Kay 61’), Rooney, Blyth, smith (Hindle 76’)

.

Wrecsam

Tîm: Lainton, Roberts, Jennings, Walker, Summerfield, Pearson, Young, Lawlor, Pyke (Rutherford  27’), Beavon (Fondop-Talom 81’), Grant

Cardiau Melyn: Pearson 44’, Walker 75’

.

Torf: 851