Abertawe 1–4 Norwich                                                                    

Colli’n drwm a fu hanes Abertawe wrth i Norwich ymweld â’r Liberty yn y Bencampwriaeth brynhawn Sadwrn.

Y Caneris yw’r tîm gorau yn y gynghrair ar hyn o bryd ac roedd hynny’n berffaith amlwg wrth iddynt rwydo tair mewn hanner cyntaf gwefrieddiol.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen wedi dim ond chwarter awr pan drodd Mike van der Hoorn groesiad Teemu Pukki i’w rwyd ei hun.

Dyblwyd y fantais o fewn deg munud, Emi Buendia yn dwyn y bêl oddi ar Bersant Celina ar ochr y cwrt cosbi cyn anelu ergyd gywir heibio i Erwin Mulder yn y gôl.

Roedd hi’n dair cyn troi diolch i Marco Stiepermann, yr Almaenwr yn gorffen yn daclus o groesiad Max Aarons wedi gwaith creu da Pukki a Buendia.

Rhoddwyd llygedyn o obaith i’r Elyrch ar ddiwedd yr hanner cyntaf pan dynnodd Daniel James un yn ôl, yn rhwydo wedi i Tim Krul fethu a dal ei afael ar ergyd wreiddiol Kyle Naughton.

Adferodd yr ymwelwyr eu tair gôl o fantais ar yr awr serch hynny, Pukki yn gorffen yn dda wedi pas gywir Onel Hernandez.

Mae’r canlyniad yn cadw Norwich ar frig y tabl ac Abertawe yn y nawfed safle.

.

Abertawe

Tîm: Mulder, Naughton, van der Hoorn, Rodon, Grimes, Fer, Fulton (Bony 45’), Roberts (Olsson 45’), Celina (McKay 68’), James, McBurnie

Gôl: James 41’

.

Norwich

Tîm: Krul, Aarons, Zimmermann, Klose, Lewis, Tettey, Leitner (Rhodes 89’), Buendia (Vrancic 86’), Stiepermann, Hernandez (Cantwell 77’), Pukki

Goliau: van der Hoorn [g.e.h.] 16’, Buendia 24’, Stiepermann 37’, Pukki 60’

Cardiau Melyn: Aarons 56’, Lewis 73’

.

Torf: 18,780