Wrecsam 0–2 Leyton Orient                                                          

Collodd Wrecsam gyfle i godi i frig Cynghrair Genedlaethol Lloegr wrth golli yn erbyn Leyton Orient ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn.

Dechreuodd y Dreigiau’r gêm bwynt yn unig y tu ôl i’w gwrthwynebwyr ar frig y tabl ond ymestynnodd yr Orient eu mantais i bedwar pwynt gan ennill y gêm gyda dwy gôl hwyr.

Wrecsam a gafodd y gorau o gêm agos am gyfnodau hir ond di sgôr a oedd hi gyda phum munud o’r naw deg yn weddill.

Dyna pryd y manteisiodd Macauley Bonne i roi’r ymwelwyr ar y blaen ac roedd y tri phwynt yn ddiogel pan ychwanegodd James Brophy yr ail bedwar munud yn ddiweddarach.

Mae’r canlynid yn cadw Wrecsam yn drydydd ond mae pedwar pwynt o fwlch bellach rhyngthynt a Leyton Orient.

.

Wrecsam

Tîm: Lainton, Roberts, Pearson, Carrington, Young, Summerfield, Pyke (Maguire-Drew 82’), Rutherford (Jennings 77’), Walker, Beavon (Fondop-Talom 77’), Lawlor

Cerdyn Melyn: Walker 18’

.

Leyton Orient

Tîm: Brill, Judd, Coulson, Gorman (Alabi 85’), Widdowson, Ekpiteta, McAnuff, Clay, Dayton (Brophy 70’), Koroma, Bonne

Gôl: Bonne 86’, Brophy 90’

Cardiau Melyn: Dayton 58’, Gorman 82’, McAnuff 90’

.

Torf: 6,428