Mae capten tîm pêl-droed Cymru wedi ymddiheuro ar ôl gwneud sylwadau yn erbyn rhai o gefnogwyr Caerdydd ar drothwy’r gêm yn erbyn Denmarc ddydd Gwener (Tachwedd 16).

Fe gafodd Ashley Williams ei ddal ar gamera yn gwawdio cefnogwyr yr Adar Gleision wrth iddo syllu ar lun yn nhwnnel y chwaraewyr yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Bu tipyn o drafod ynglŷn â’i sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda rhai o gefnogwyr Caerdydd yn dweud na ddylai cyn-amddiffynnwr Abertawe chwarae i Gymru eto.

Ond mae Ashley Williams wedi amddiffyn ei hun drwy ddweud mai “tynnu coes” ffisiotherapydd Cymru a chlwb Caerdydd, Sean Connelly, ydoedd.

“Dim malais”

“Roedd yna ychydig o dynnu coes rhyngof a Sean, sydd wedi bod yn ffisiotherapydd i Gaerdydd ers oes,” meddai mewn cynhadledd i’r wasg yn Albania, ddoe.

“Doedd e’n amlwg ddim i fod achosi unrhyw falais. Mae’r math hwn o dynnu coes yn digwydd o hyd o fewn y garfan, ond y tro hwn fe gafodd ei sylwi.

“Rydw i’n ymddiheuro os yw’r sylwadau wedi sarhau unrhyw un … Does gen i ddim byd yn erbyn cefnogwyr Caerdydd.”