Dywed Ryan Giggs ei fod yn falch o berfformiad tîm Cymru er gwaethaf colli 2-1 mewn gêm hynod gyffrous yn erbyn Denmarc yng Nghaerdydd neithiwr.

Roedd Nicolai Jorgensen wedi rhoi Denmarc ar hanner amser a Martin Braithwaite wedi dyblu mantais yr ymwelwyr wrth sgorio ddau funud cyn y diwedd.

O fewn eiliadau fodd bynnag, roedd Gareth Bale wedi taro’n ôl gyda’i 31ain gôl dros ei wlad, gan gadw’r dorf a chwaraewyr Denmarc ar bigau’r drain am yr hyn oedd weddill o’r gêm Cynghrair y Cenhedloedd.

“Rydych chi bob amser yn siomedig pan ydych chi’n colli, mae’n amlwg, ond dw i’n falch o’r chwaraewyr,” meddai’r rheolwr Ryan Giggs. “Dw i’n falch o’r perfformiadau maen nhw wedi’i roi yn y ddwy gêm yn erbyn tîm da iawn.

“Roeddech chi’n gweld heno fod Denmarc yn effeithiol, profiadol a disgybledig ac fe allwn ni ddysgu o hynny.

“Mae’r holl brofiad mae’r chwaraewyr wedi’i gael yn eu rhoi mewn sefyllfa gref wrth fynd i gemau rhagbrofol yr Euro y flwyddyn nesaf.”

Fe fydd tîm Cymru ar eu ffordd yn fuan i Tirana i wynebu Albania mewn gêm gyfeillgar ddydd Mawrth.