Mae Gareth Bale yn holliach i herio Denmarc heno.

Bu marc cwestiwn tros ffitrwydd ymosodwr Real Madrid yr wythnos hon.

Mae’r Cymry yn herio Denmarc am y cyfle i guro eu grŵp yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Roedd yna bryderon na fyddai Gareth Bale ar gael i chwarae yng nghrys coch Cymru ar ôl iddo dderbyn anaf i’w bigwrn wrth chwarae i Real Madrid y penwythnos diwethaf.

Ond mae hyfforddwr Cymru, Ryan Giggs, yn dweud ei fod yn “edrych yn dda”, ac yn “barod i chwarae”.

Gêm dyngedfennol

Curo heno, a bydd Cymru yn ennill y grŵp ac yn codi i brif adran Cynghrair y Cenhedloedd.

Byddai gêm gyfartal yn golygu y byddai gan Ddenmarc gyfle i ennill y grŵp trwy guro Gweriniaeth Iwerddon yn eu gêm olaf nhw.

Yn cyfeirio at golled Cymru yn erbyn Denmarc ym mis Medi o ddwy gôl i ddim, dywedodd Ashley Williams:

“Wnaethon ni ddim chwarae i’n llawn potensial allan yn Nenmarc, ond rydym wedi gwneud yn dda  a gweithio’n galed i gyrraedd y fan lle rydym ni.

“Rydym ni eisiau gorffen y peth yn iawn, a dw i’n siŵr y byddwn ni’n siomedig iawn os na wnawn ni ennill y grŵp nawr.”

Newidiadau

Ymhlith y wynebau newydd yng ngharfan Cymru mae Kieron Freeman, sydd wedi’i alw i’r garfan yn lle’r amddiffynwyr Chris Mepham a Neil Taylor.

Roedd disgwyl i Joe Rodon gael ei gynnwys hefyd, ond derbyniodd anaf i’w ben-glin yn ystod buddugoliaeth Abertawe yn erbyn Bolton ddydd Sadwrn diwethaf.

Mae Ryan Giggs hefyd wedi cadarnhau na fydd George Thomas yn aelod o’r garfan heno chwaith, a hynny oherwydd anaf i’w bigwrn.

Bydd y gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd heno yn cychwyn am chwarter i wyth, gyda chyfle i’w dilyn yn llawn ar BBC Radio Cymru ac S4C.