Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi talu teyrnged i Dave Stewart, y golwr a chwaraeodd ym mhob gêm wrth ennill dyrchafiad i’r Adran Gyntaf yn 1980-81.

Bu farw’r Albanwr o Glasgow yn 71 oed.

Ymunodd ag Abertawe o West Brom am £55,000 fis Chwefror 1980, ond fe gollodd ei le yn y pen draw i’r Cymro Cymraeg Dai Davies.

Enillodd e un cap dros ei wlad, ac fe chwaraeodd hefyd i glybiau Ayr United a Leeds United. Roedd e yn y gôl ar gyfer gêm Leeds yn rownd derfynol Cwpan Ewrop yn 1975.

“Mae Clwb Pêl-droed Abertawe’n meddwl am deulu a ffrindiau Dave ac yn cydymdeimlo â nhw ar yr adeg drist hon,” meddai’r clwb mewn datganiad.