Weston-super-Mare 0–2 Wrecsam                                             

Mae Wrecsam yn ail rownd y Cwpan FA ar ôl trechu Weston-super-Mare yn y rownd gyntaf yn Stadiwm Woodspring brynhawn Sul.

Wedi hanner cyntaf di sgôr, fe roddodd Luke Summerfield y Dreigiau ar y blaen bum munud ar ôl troi.

Felly yr arhosdd hi tan ddeg munud o’r diwedd pan sicrhaodd Stuart Beavon y fuddugoliaeth, yn curo Luke Purnell ar yr ail gynnig.

Wrecsam yn ymuno â Chasnewydd yn yr het ar gyfer yr ail rownd felly, gyda’r enwau i’w tynnu nos Lun.

.

Weston-super-Mare

Tîm: Purnell, McGrory (Phipps 83’), Pope, Bower, Nurse, Swallow (Llewellyn 69’), Jagger Cane, Diallo, Byrne, Hill, Welsh (Lucas 12’)

Cardiau Melyn: Diallo 72’, Bower 90+1’

.

Wrecsam

Tîm: Lainton, Roberts, Pearson, Lawlor, Jennings, Young, Walker (Wright 57’), Summerfield, Rutherford, Holroyd (Pyke 67’), Beavon (Deverdics 89’)

Goliau: Summerfield 51’, Beavon 81’

Cerdyn Melyn: Wright 66’

.

Torf: 1,170