Heddlu’r Met 0–2 Casnewydd                                                       

Mae Casnewydd yn ail rownd y Cwpan FA ar ôl trechu Heddlu’r Met yn y rownd gyntaf yn Imber Court bynhawn Sadwrn.

Roedd hi’n ddi sgôr tan bum munud cyn yr egwyl pan beniodd Padraig Amond yr ymwelwyr ar y blaen o groesiad Matty Dolan.

Dyblodd Jamille Matt fantais yr Alltudion yn gynnar yn yr ail gyfnod ac roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel erbyn i’r Met fynd i lawr i ddeg dyn pan welodd Louis Birch ei ail gerdyn melyn dri munud o ddiwedd y naw deg.

Tîm Mike Flynn yn yr het ar gyfer yr ail rownd felly ac yn gobeithio am ymgyrch dda arall yn y gystadlaeuaeth ar ôl cyrraedd y bedwaredd rownd y tymor diwethaf.

.

Heddlu’r Met

Tîm: William, Webb, Arthur (Kozakis 82’), McLaughlin, Guinness-Walker, Mummery (Hippolyte 59’), Birch, Chislett, Knight (Gilbert 76’), Mazzone, Blackmore

Cardiau Melyn: Birch 54’, 87’, Gilbert 90+2’

Cerdyn Coch: Birch 87’

.

Casnewydd

Tîm: Day, Pipe (O’Brien 52’), Franks, Demetriou, Willmott, Bakinson, Dolan, Sheehan (Marsh-Brown 64’), Butler, Amond, Matt (Semenyo 83’)

Goliau: Amond 41’, Matt 48’

Cardiau Melyn: Demetriou 17’, Butler 43’

.

Torf: i ddilyn