Caerdydd 0–1 Leicester City                                                                      

Sgoriodd Demarai Gray unig gôl y gêm wrth i Leicester City guro Caerdydd ar brynhawn emosiynol yn Stadiwm y Ddinas ddydd Sadwrn (Tachwedd 3).

Hon a oedd gêm gyntaf y Llwynogod ers marwolaeth eu perchenog, Vichai Srivaddhanaprabha, a thalodd y ddau dîm eu teyrngedau cyn y gic gyntaf.

Wedi’r chwiban gyntaf, Victor Camarasa a ddaeth agosaf at agor y sgorio i Gaerdydd pan darodd ei gic rydd yn erbyn y trawst.

Yr ymwelwyr a gafodd unig gôl serch hynny, ddeg munud wedi’r egwyl, pan orffennodd Gray yn daclus o groesiad Ben Chilwell.

Mae Caerdydd yn llithro’n ôl i safleoedd disgyn Uwch Gynghrair Lloegr o ganlyniad gan i Newcastle ennill am y tro cyntaf y tymor hwn, gartref yn erbyn Watford.

.

Caerdydd

Tîm: Etheridge, Ecuele Manga, Morrison, Bamba, Bennett, Camarasa, Gunnarsson, Arter (Ward 79’), Murphy (Madine 85’), Reid (Hoilett 65’), Paterson

Cardiau Melyn: Arter 45+1’, Hoilett 81’

.

Leicester City

Tîm: Schmeichel, Ricardo Pereira, Morgan, Maguire (Evans 27’), Chilwell, Mendy, Ndidi, Albrighton, Maddison (Iborra 82’), Gray (Simpson 70’), Vardy

Gôl: Gray 55’

Cardiau Melyn: Ricardo Pereira 33’, Gray 55’

.

Torf: 30,877